Newidiadau i'r ffordd y gallwch wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Ni fyddwn yn derbyn copïau papur o ffurflenni cais am wiriad DBS mwyach ar ôl 28 Medi 2018.
Rydym wedi newid y ffordd rydym yn prosesu gwiriadau DBS. Os ydych yn cofrestru â ni am y tro cyntaf, neu eisoes wedi cofrestru â ni, ond bod angen i chi adnewyddu eich gwiriad DBS a'ch bod yn gymwys i gael gwiriad DBS drwy ein proses, rhaid i chi wneud cais gan ddilyn y trefniadau newydd.
Ni fyddwn yn derbyn copïau papur o ffurflenni cais am wiriad DBS mwyach ar ôl 28 Medi 2018. O'r dyddiad hwnnw, caiff unrhyw un sy'n gymwys ac y mae angen gwiriad DBS arnynt drwy law AGC, eu cyfeirio at ffurflen gais ar-lein, sydd wedi'i chefnogi gan ein darparwr trydydd parti.
Dysgwch fwy am sut i wneud cais am wiriad DBS yn adran DBS ein gwefan.