Penodi Dirprwy Brif Arolygydd ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru
Bydd Vicky Poole yn dechrau yn y rôl ar 1 Tachwedd.
Cyn hyn, Vicky oedd Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol yr arolygiaeth ac mae'n olynu'r Prif Arolygydd Cynorthwyol blaenorol, David Francis.
Mae'r Dirprwy Brif Arolygydd yn goruchwylio'r gwaith beunyddiol o gyflawni holl swyddogaethau AGC yn unol â deddfwriaeth.
Mae'r rôl, sy'n atebol i'r Prif Arolygydd yn uniongyrchol, yn cynnwys ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau a'n darparwyr, yn ogystal â Llywodraeth Cymru.
Y Dirprwy Brif Arolygydd newydd
Ymunodd Vicky ag AGC (AGGCC gynt) ym mis Ebrill 2014 fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd Cymru, ac mae wedi treulio'r 12 mis diwethaf fel Pennaeth y tîm Arolygu Awdurdodau Lleol.
Gyda gyrfa sefydledig yn y sector gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, mae Vicky wedi gweithio i nifer o awdurdodau lleol a byrddau iechyd ledled Gogledd Cymru yn flaenorol. Mae'n nyrs iechyd meddwl gofrestredig ac mae ganddi MSc mewn Rheoli Partneriaethau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Wrth siarad am y rôl, dywedodd:
Mae'n fraint enfawr ymgymryd â rôl Dirprwy Brif Arolygydd AGC ar yr adeg gyffrous a heriol hon ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Mae'r gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio ac yn eu harolygu yn effeithio ar fywydau'r rhan fwyaf o deuluoedd. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o fewn AGC, Llywodraeth Cymru a gyda sefydliadau allanol, wrth i ni gydweithio i wella canlyniadau i bobl ledled Cymru.
Roedd y Prif Arolygydd Gillian Baranski yn falch o gyhoeddi'r penodiad newydd, a dywedodd:
Rwy'n falch o gyhoeddi penodiad Vicky Poole fel Dirprwy Brif Arolygydd newydd AGC. Bydd Vicky yn darparu arweinyddiaeth strategol gref i'r sefydliad ac mae wedi ymrwymo'n gryf i sicrhau bod AGC yn gwneud popeth y gall i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Vicky yn ei rôl newydd.