Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol 2017–18
Mae ein hadroddiad blynyddol yn tanlinellu ein gwaith drwy gydol y flwyddyn flaenorol.
Mae adroddiad blynyddol 2017–18 yn dangos y gwnaethom reoleiddio 5,968 o wasanaethau yn darparu 111,557 o lefydd, a chynnal mwy na 2,955 o arolygiadau ar draws gwasanaethau oedolion a phlant a gwasanaethau gofal plant a chwarae.
Gwnaethom ddelio â 5,010 o newidiadau i gofrestriadau gwasanaethau a ffyrdd o weithio, a gwnaethom dderbyn 35,937 o hysbysiadau gan wasanaethau. Gwnaethom dderbyn 3,419 o bryderon ynglŷn â gwasanaethau ledled Cymru.
Parhawyd i baratoi ar gyfer rhoi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Deddf 2016) ar waith, sy’n rhoi atebolrwydd am ansawdd gofal yn bendant ar y lefel uchaf mewn sefydliadau. Aethom ati i siarad â staff, darparwyr a rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw er mwyn helpu i lunio a datblygu dulliau gweithredu newydd yn unol â Deddf 2016.
Parhawyd i baratoi ar gyfer cyhoeddi manylion statws yn ein hadroddiadau arolygu gofal plant a chwarae, a chynhaliwyd gwaith cynllunio manwl gydag Estyn cyn rhaglen o arolygiadau ar y cyd o leoliadau nas cynhelir.
Symudwyd o ddull gweithredu rhanbarthol i un cenedlaethol ym mis Tachwedd 2017, a chafodd y broses o gyhoeddi adroddiadau arolygu ar ein gwefan ei hawtomeiddio, gan ei gwneud yn bosibl i bobl weld ein gwybodaeth fwyaf diweddar.
Dywedodd y Prif Arolygydd Gillian Baranski:
Bu 2017-18 yn flwyddyn o newid sylweddol er mwyn sicrhau ein bod yn barod i wynebu heriau’r dyfodol. Ein huchelgais yw sicrhau’r safonau uchaf posibl a helpu i wella canlyniadau i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.