Gwelliant sylweddol i'w weld yng ngwasanaethau plant Ynys Môn – adroddiad
Gwnaethom arolygu'r gwasanaethau i blant yng Nghyngor Sir Ynys Môn ym mis Tachwedd 2016, a chynhaliwyd arolygiad dilynol gennym yn ystod mis Hydref eleni er mwyn asesu'r gwelliannau a wnaed.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, datblygodd yr awdurdod lleol raglen wella sylweddol ar gyfer y gwasanaethau plant.
Beth y gwnaethom ei ystyried
Ystyriodd ein harolygiad ym mis Hydref 2018 p'un a oedd teuluoedd yn cael eu grymuso i gael gafael ar help, gofal a gwasanaethau cymorth, ac ansawdd y canlyniadau a gyflawnir ar gyfer y plant.
Ystyriodd yr arolygwyr hefyd ansawdd trefniadau arwain, rheoli a llywodraethu.
Canfyddiadau
Llwyddodd y gwasanaethau plant i ddangos gwelliant sylweddol mewn sawl maes allweddol. Erys rhai meysydd i'w gwella.
Mae morâl y staff yn uchel ac mae brwdfrydedd ac ymroddiad ar bob lefel i ddarparu gwasanaethau ardderchog i'r plant.
Mae'r ymatebion diogelu yn amserol ac yn gymesur ar y cyfan, ond gellid gwella'r broses o goladu a chofnodi tystiolaeth a dadansoddi risg.
Bu cynnydd amlwg yn nifer y plant sy'n derbyn gofal a chynnydd cyfatebol yn llwyth gwaith y timau.
Ceir diffyg lleoliadau addas i blant, ac mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn sicrhau bod yr opsiynau o ran lleoliadau yn diwallu anghenion penodol plant, fel y rhai ag anghenion cymhleth.
Ceir arweinyddiaeth a threfniadau llywodraethu cadarn yn y gwasanaethau plant. Mae'r uwch swyddogion yn amlwg, ar gael ac yn llywio gwelliannau, ac mae partneriaid ar y bwrdd diogelu rhanbarthol, Heddlu Gogledd Cymru a chydweithwyr o'r bwrdd iechyd yn gadarnhaol ynghylch y newidiadau y maent wedi'u gweld, gan ddisgrifio diwylliant agored newydd a chydweithio da.
Meysydd i'w datblygu
- Rhaid sicrhau bod y gwaith o gasglu, cofnodi a dadansoddi tystiolaeth yn cyrraedd lefel gyson uchel er mwyn sicrhau na fydd achosion lle mae plant yn dioddef niwed sylweddol yn cael llithro.
- Parhau i gynyddu nifer y lleoliadau a'r amrywiaeth o opsiynau o ran lleoliadau sydd ar gael i blant ar yr ynys, yn seiliedig ar ddealltwriaeth broffesiynol o anghenion y plant.
- Mae angen i blant allu meithrin cydberthnasau â gweithwyr cymdeithasol y gallant ymddiried ynddynt, a dylid lleihau nifer y gweithwyr cymdeithasol y mae'n rhaid i bob plentyn ailadrodd ei stori iddynt. Rhaid i weithwyr cymdeithasol sicrhau bod pob achos o ryngweithio â phlentyn yn cyfrif a gallu dangos tystiolaeth o'u gwaith.
Camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w datblygu a'u cynnwys yn ei gynlluniau datblygu. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch ymgysylltu parhaus gyda'r awdurdod lleol.