Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 16 Hydref 2019
  • Newyddion

Adolygiad o ofal dementia gan AGC

Mae ein hadolygiad thematig o ofal dementia mewn cartrefi gofal ledled Cymru yn mynd rhagddo.

Eleni, byddwn yn gwerthuso pa mor dda y mae cartrefi gofal yn hybu llesiant ac yn helpu i gyflawni canlyniadau da i bobl sy'n byw gyda dementia. Bydd ein hadroddiad terfynol yn disgrifio ansawdd y gofal a roddir i bobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal ledled Cymru.

Camau cyntaf

  • Gwnaethom ymgynghori â grŵp rhanddeiliaid ym mis Mai 2019.
  • Gwnaethom siarad â phobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr, darparwyr a sefydliadau perthnasol. Yn sgil hyn, gwnaethom ddatblygu adnoddau arolygu i'n helpu i gynnal yr arolwg hwn.
  • Mae ein hyfforddwyr dementia – arolygwyr sydd wedi cael cymorth gan dîm Prifysgol Bangor y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia – wedi rhoi hyfforddiant i arolygwyr eraill ar wybodaeth gyfredol am ddementia ac ymarfer gofal.
  • Rydym wedi derbyn mwy na 300 o ymatebion i'r arolwg hyd yn hyn, a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno i lywio ein hadolygiad.

Y camau nesaf

Rhwng nawr a mis Ionawr 2020, byddwn yn arolygu 228 o gartrefi gofal a byddwn yn edrych ar brofiadau pobl sy'n byw gyda dementia yn ogystal â'u gofalwyr (teuluoedd). Byddwn hefyd yn ymgynghori â chomisiynwyr.

Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad terfynol ym mis Mai 2020.