Canllaw AGC ac Estyn ar y cyd yn cael ei gyhoeddi
Gan ddechrau'r mis hwn, caiff rhai gwasanaethau gofal plant sy'n darparu gofal ac addysg gynnar eu harolygu gennym ar y cyd.
Mae'r canllawiau ar y cyd hyn, a gyhoeddir heddiw, yn cwmpasu arolygiadau o ofal ac addysg mewn lleoliadau rheoledig nad ydynt yn ysgolion, sy'n gymwys i gael cyllid ar gyfer addysg rhan-amser.
Yn ystod yr arolygiadau ar y cyd hyn, byddwn yn arolygu gofal pob plentyn hyd at 12 oed ac addysg plant tair a phedair mlwydd oed nad ydynt yn derbyn addysg mewn lleoliadau a gynhelir.
Bydd y canllawiau yn rhoi rhagor o fanylion am y ffordd rydym ni ac Estyn yn arolygu'r gwasanaethau hyn ar y cyd.
Bydd hefyd yn helpu darparwyr i ddeall ein proses arolygu, ac mae'n cynnwys copi o'n fframwaith arolygu.
Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi dogfen cywirdeb ffeithiol a dogfen ddilynol ar gyfer yr arolygiadau ar y cyd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen fframwaith gofal plant a chwarae ar y cyd.