Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Ionawr 2019
  • Newyddion

Gwelliant sylweddol wedi'i gyflawni ym Mhowys ond mae pryderon mawr o hyd – adroddiad

Gwnaethom arolygu gwasanaethau plant ym Mhowys ym mis Gorffennaf 2017 a nododd bryderon mawr, a chynhaliwyd arolygiad pellach ym mis Hydref 2018.

Mae adroddiad mis Hydref 2018 yn amlinellu'r datblygiadau a'r gwelliannau a nodwyd gennym. 

Mae gwasanaethau plant Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i wneud gwelliannau sylweddol mewn meysydd penodol, a pheth gwelliant mewn meysydd eraill.  Mae gennym bryderon mawr o hyd ynghylch rhai meysydd ymarfer.

Mae pawb sy'n rhan o wasanaethau plant Cyngor Sir Powys wedi gweithio'n galed i wella'r gwasanaeth.

Meysydd o flaenoriaeth i'w datblygu

  • Sicrhau bod yna weledigaeth strategol glir i gyflwyno gwasanaeth di-dor a datblygu gweithio ar y cyd ag iechyd, addysg a'r trydydd sector ymhellach er budd plant a theuluoedd
  • Datblygu ymarfer comisiynu a gwaith cymdeithasol er mwyn lleihau nifer y lleoliadau brys a galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i gael mynediad at amrywiaeth ddigonol o lety ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn agos at eu cartref yn fwy effeithiol. Lleihau nifer y plant a leolir heb ddarpariaeth addysgol y cytunwyd arni.
  • Sicrhau ymwneud amlasiantaeth cynnar wrth ddiogelu a sicrhau ymateb yn syth i blant sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio rhywiol.
  • Sicrhau bod ymchwiliadau trwylwyr i gwynion yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae cynlluniau'r awdurdod lleol i ailstrwythuro gwasanaethau plant, cyflwyno model cydnabyddedig o waith cymdeithasol a llunio strategaeth gydlynol ar gyfer cymorth cynnar a chymorth i deuluoedd.  Dylai'r datblygiadau hyn arwain at welliannau pellach.

Camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol adolygu ei gynllun gwella presennol o fewn ugain diwrnod gwaith o gyhoeddi'r adroddiad hwn. O ganlyniad i'r meysydd o bryder mawr a nodwyd yn yr arolygiad hwn, byddwn yn parhau i fynd ati i fonitro ansawdd y gwasanaethau yn chwarterol. Byddwn yn ystyried arolygiad pellach o wasanaethau plant 12-18 mis o ddyddiad cyhoeddi'r adroddiad hwn.