Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cyhoeddi eu Cyd-adolygiad Thematig o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol heddiw
Mae'r adroddiad yn gwneud 23 o argymhellion ar gyfer gwella.
Mae'r adolygiad hwn, a gyhoeddir heddiw, yn dwyn ynghyd y themâu allweddol sydd wedi deillio o'n cyd-arolygiadau o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol ledled Cymru, yn ogystal â'n cyswllt â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, gofalwyr a'r trydydd sector.
Y themâu allweddol sydd wedi deillio o'r adolygiad hwn yw:
- Mynediad at Wasanaethau
- Cynllunio Gofal
- Darparu Gofal Diogel ac Effeithiol
- Llywodraethu
Mewn perthynas â'r themâu hyn, gwelsom anghysondeb ac amrywiaeth o ran safonau, cysondeb ac argaeledd y driniaeth, y gofal a'r cymorth a ddarperir gan Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol ledled Cymru.
Canfyddiadau:
- Mae diffyg eglurder ynghylch sut y mae pobl yn cael mynediad at Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol, ac mae angen atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng meddygon teulu a'r Timau. Mewn rhai ardaloedd, mae diffyg gwybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i atgyfeirio pobl atynt.
- Rydym yn pryderu am allu pobl sy'n profi argyfwng iechyd meddwl i gael cymorth brys. Mae rhai defnyddwyr gwasanaeth yn cael anhawster defnyddio gwasanaethau y tu allan i oriau neu mae'n rhaid iddynt fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Nid oedd nifer sylweddol o bobl yn gwybod pwy i gysylltu â nhw y tu allan i oriau.
- Nid yw defnyddwyr gwasanaeth na'u teuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gofal a thriniaeth.
- Er bod Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cyrraedd targedau ar gyfer cwblhau asesiadau a/neu gynlluniau gofal, rydym wedi gweld nad yw hyn bob amser yn golygu bod ansawdd y dogfennau'n dda.
- Mae heriau sylweddol yn wynebu pobl y mae angen gwasanaethau seicoleg neu therapiwtig arnynt gydag amseroedd aros hir yng Nghymru; hyd at 24 mis mewn rhai ardaloedd.
- Mewn rhai ardaloedd, mae'n anodd cael rhai gwasanaethau gan y trydydd sector neu wasanaethau cymorth eraill, sy'n golygu nad yw'r cymorth amhrisiadwy y gall y gwasanaethau hynny ei gynnig yn cael ei ddefnyddio'n llawn ac yn effeithiol.
- Mae llawer o waith yn cael ei wneud i drawsnewid gwasanaethau ledled Cymru, sy'n gadarnhaol. Fodd bynnag, mae angen parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael gofal priodol tra bod newidiadau ehangach yn cael eu gwneud.
- Mae technoleg gwybodaeth a mynediad cyffredinol at gofnodion cleifion/defnyddwyr gwasanaeth yn broblem fawr ymhlith Timau Iechyd Meddwl Cymunedol gan nad yw systemau'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio'n iawn.
- Mae angen gwella amgylcheddau gwaith Timau Iechyd Meddwl Cymunedol gan fod rhai ardaloedd clinigol yn anaddas at y diben.