Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 20 Chwefror 2019
  • Newyddion

Perchennog busnes gofal plant a gofalwr maeth, model rôl cadarnhaol ar gyfer ar gyfer ymgyrch 'Proud to be me’

Mae Sian yn sgwrsio â ni am ei thaith drwy'r system gofal, system a'i hysbrydolodd i ddod yn ofalwr maeth a darparwr gofal plant llwyddiannus.

Fel rhan o ymgyrch ‘Proud to be me’, cafodd Sian, a fu'n rhan o'r system gofal yn blentyn, sgwrs â ni am ei thaith drwy'r system honno, gan ddweud wrthym am y modd y bu ei phrofiad yn gymorth iddi greu busnes llwyddiannus. 

‘Proud to be me’ yw ymgyrch sy'n cael ei arwain gan Voices from Care, a ddechreuodd â diwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol, Diwrnod Gofal 2019, ar 15 Chwefror
Ni fu taith Sian drwy'r system gofal bob amser yn un hawdd, meddai. 

Roedd fy rhieni genedigol yn drwm eu clyw. Fe wnaethon nhw wahanu pan oeddwn i'n ddwy flwydd oed, a gwnaeth fy mam enedigol gwrdd â phartner treisgar iawn. Cefais fy ngham-drin yn gorfforol, yn rhywiol ac yn emosiynol, a chefais fy esgeuluso'n wael iawn. Doeddwn i ddim yn cael fy mwydo am gyfnodau hir iawn o amser, gan olygu bod yn rhaid i mi chwilio am fwyd mewn biniau sbwriel, a dwyn bwyd o becynnau cinio. Yn yr ysgol, roeddwn i wastad yn cael stŵr am ymddwyn yn wael, ond mewn gwirionedd, gweiddi am help oeddwn i. 

Un dydd, sylwodd un o'r athrawon ar gleisiau mawr ar fy nghoesau, a dyna ddechrau fy nhaith at ofal maeth. Cefais fy lleoli dros 20 o weithiau, a phan oeddwn i'n 13 oed, roedden nhw wedi rhedeg allan o lefydd i'm 'rhoi'. Yn y pen draw, cefais fy lleoli gyda'r bobl rwy'n eu galw'n fy nheulu oes. Yr eiliad y cerddais i mewn i'w cartref, roeddwn i'n gwybod fy mod i'n perthyn yno.

Mae cefnogaeth fy nheulu erioed wedi newid fy mywyd, a byddaf yn ddiolchgar iddyn am byth.. Dros y deng mlynedd diwethaf rydw i wedi rhedeg busnes gwarchod plant llwyddiannus, a dwy flynedd yn ôl, penderfynodd fy ngŵr a minnau ddod yn ofalwyr maeth therapiwtig, gan wireddu breuddwyd oes.

Wrth siarad am Arolygiaeth Gofal Cymru, a'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae, dywedodd Sian: 

Fel un sy'n rhedeg busnes yn y sector sy'n cael ei reoleiddio a'i archwilio gan AGC, rwy'n credu ei bod yn chwarae rôl hanfodol. Mae'n bwysig bod gan bobl sy'n agored i niwed yng Nghymru sefydliad sy'n arolygu ac yn rheoleiddio'r gofal y maent yn ei gael. P'un a yw'n blentyn yn y system gofal, neu'n berson oedrannus sy'n cael gofal mewn cartref, mae'n wych bod AGC yn sicrhau eu bod yn cael gofal da.

Wrth sôn am yr ymgyrch 'Proud to be me', dywedodd y Prif Arolygydd Gillian Baranski:

Mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu'r straeon llwyddiant a'r modelau rôl hynny ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sy'n derbyn gofal ar hyn o bryd sydd wedi gadael y system yn ddiweddar.

Mae'n wych bod pobl fel Sian yn mynd ati i gefnogi yr ymgyrch hon. Rwy'n gobeithio y bydd ei stori'n cynnig anogaeth ac ysbrydoliaeth, ac y bydd plant eraill sy'n derbyn gofal yn  dymuno dilyn ei hesiampl.