Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 4 Mawrth 2019
  • Newyddion

Cyhoeddi adroddiad arolygu ar gyfer Cafcass Cymru

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer Cafcass Cymru, y gwasanaeth cynghori llysoedd teulu o safbwynt plant sy'n byw yng Nghymru.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ei adroddiad arolygu ar gyfer Cafcass Cymru. Mae Cafcass Cymru yn darparu cyngor a chymorth arbenigol sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ac yn gwneud yn siŵr bod lleisiau plant yn cael eu clywed mewn llysoedd teulu ledled Cymru.

Cynhaliodd AGC ei arolygiad o Cafcass Cymru ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2018. Roedd yr arolygiad yn gwerthuso perfformiad y sefydliad mewn perthynas â chyfarwyddiadau ymarfer penodedig a ategir gan Ddeddf Plant 2004.

Mae'r Canfyddiadau Allweddol yn cynnwys:

  • Roedd y swyddogion yn ymrwymedig i sicrhau'r canlyniadau gorau i blant, ac mae hyn wedi helpu'r sefydliad i reoli'r cynnydd yn ei lwyth gwaith.
  • Yn gyffredinol, roedd ansawdd yr ymarfer a welwyd yn dda, gyda pheth ymgysylltu ardderchog â phlant a theuluoedd. Roedd tystiolaeth i ddangos bod llais y plentyn wrth wraidd yr ymarfer.
  • Roedd dull Cafcass o ddadansoddi'r effaith ar y plentyn mewn achosion cyfraith breifat yn helpu'r ymarferwyr i ganolbwyntio ar farn ac anghenion y plentyn.
  • Mae'r sefydliad yn ceisio gwella'r gwasanaethau i blant drwy gydweithio i arloesi a dylanwadu ar ymarfer.
  • Roedd tystiolaeth o gyfathrebu effeithiol rhwng y farnwriaeth a Cafcass Cymru, a bod yr uwch-reolwyr yn gwerthfawrogi adborth.
  • Mae'r uwch-reolwyr yn cynnal cydberthnasau gwaith effeithiol â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Cafcass England a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru er mwyn hyrwyddo anghenion plant a phobl ifanc yng Nghymru yng nghyd-destun ehangach y DU.   

Meysydd i'w gwella 

  • Cryfhau'r broses o gyfeirio plant a theuluoedd at wasanaethau gwybodaeth i deuluoedd, er mwyn rhoi gwell gwybodaeth iddynt am y cymorth sydd ar gael yn eu hardal leol.
  • Parhau i wella ansawdd y broses o gynllunio a chofnodi achosion a chadw cofnod o'r gwaith uniongyrchol a wneir gyda phlant yn benodol.
  • Hybu'r amrywiaeth a'r defnydd o adnoddau gwaith uniongyrchol sydd ar gael i ymarferwyr ymhellach.
  • Cryfhau'r gydberthynas waith â Swyddogion Adolygu Annibynnol.

Y camau nesaf 

Mae AGC yn disgwyl i Cafcass Cymru ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd, ac i gymryd camau priodol.  Mae AGC yn mynnu bod Cafcass Cymru yn darparu manylion am y ffordd y bydd yn gwneud hyn cyn pen 20 diwrnod i gyhoeddi'r adroddiad arolygu.