Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 28 Mawrth 2019
  • Newyddion

Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Hŷn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol), ac archwiliwyd pa mor dda y mae awdurdod lleol Wrecsam, yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i hyrwyddo annibyniaeth ac atal anghenion cynyddol ar gyfer oedolion hŷn.

Canfyddiadau

  • Llesiant – Gall pobl fod yn gynyddol hyderus bod yr awdurdod lleol yn cydnabod mai oedolion yw'r bobl orau i farnu eu llesiant eu hunain.
  • Pobl – llais a dewis – Nodwyd y gall pobl heb alluedd meddyliol fod yn hyderus bod pwysigrwydd asesiadau a phenderfyniadau er eu budd pennaf wedi'u hymgorffori mewn ymarfer.
  • Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – Nodwyd bod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud wrth ddatblygu'r maes diogelu.
  • Ataliad ac ymyrraeth gynnar – Roedd y staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn adlewyrchu dull gweithredu 'gallwn a byddwn', roedd y staff yn broffesiynol ac yn ymroddedig i'w ffocws ar wneud y gorau y gallant dros bobl. 

Meysydd i'w gwella

  • Llesiant – Nododd arolygwyr y gellid gwella cysondeb cyfleoedd i ofalwyr leisio eu barn a chefnogi eu llesiant.
  • Llais a dewis pobl – Gwnaethom argymell bod angen llunio cynllun ar gyfer y sector cyfan, ar y cyd â phartneriaid allweddol.
  • Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu – Nododd arolygwyr fod angen symud y tu hwnt i ddatganiadau gweledigaeth a 'phrosiectau da' tuag at ddealltwriaeth glir o sut beth fydd system o wasanaethau cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn ymarferol yn Wrecsam.
  • Ataliad ac ymyrraeth gynnar – Gwnaethom argymell y dylid parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a gwirfoddol. 

Y Camau Nesaf

Mae AGC ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r byrddau iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol  Wrecsam.