Ymgynghoriad: Dywedwch eich dweud ynglŷn â'n Cod Ymarfer ar gyfer arolygu
Mae ein hymgynghoriad ar agor hyd 14 Mehefin 2019.
Rydym yn ceisio eich barn ynghylch a yw ein drafft o'r Cod Ymarfer ar gyfer Arolygu Gwasanaethau Gwarchod Plant, Gwasanaethau Gofal Dydd a Gwasanaethau Chwarae Mynediad Agored yn darparu digon o wybodaeth ac eglurder.
Er mwyn cymryd rhan, darllenwch y ddogfen ymgynghoriad yn ogystal â'r drafft o'r Cod Ymarfer.
Rhowch eich barn i ni erbyn 14 Mehefin yn un o'r ffyrdd canlynol:
Lawrlwythwch, cwblhewch ac e-bostiwch y ffurflen ymateb i agc@llyw.cymru
Lawrlwythwch, cwblhewch ac anfonwch y ffurflen ymateb at:
Tîm Arolygu Gofal Plant a Chwarae
Arolygiaeth Gofal Cymru
Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ