Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 30 Ebrill 2019
  • Newyddion

Penodi Dirprwy Brif Arolygydd ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru

Dechreuodd Margaret Rooney yn y rôl ar 22 Ebrill 2019.

Margaret yw Cyn-Bennaeth Cofrestru a Gorfodi'r arolygiaeth.

Mae'r Dirprwy Brif Arolygydd yn goruchwylio'r gwaith beunyddiol o gyflawni holl swyddogaethau AGC yn unol â deddfwriaeth. Mae deiliad y rôl, sy'n atebol i'r Prif Arolygydd yn uniongyrchol, yn gyfrifol am ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, darparwyr, rhanddeiliad, a Llywodraeth Cymru. 

Y Dirprwy Brif Arolygydd newydd

Ymunodd Margaret ag AGC (AGGCC gynt) ym mis Mai 2013 fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru, ac mae wedi treulio'r 18 mis diwethaf fel Pennaeth y tîm Cofrestru a Gorfodi. Arweiniodd Margaret y gwaith o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.  Dechreuodd Margaret ei gyrfa fel athrawes ysgol uwchradd cyn symud i Gymru yn 2002 lle buodd yn gweithio ym maes gwasanaethau plant yng Nghyngor Sir Blaenau Gwent. Yn dilyn hynny, gweithiodd ym maes cyfiawnder ieuenctid fel pennaeth gwella perfformiad Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.

Wrth siarad am y rôl, dywedodd:

Mae'n fraint ymgymryd â rôl Dirprwy Brif Arolygydd AGC. Rwy'n credu'n gryf yn y gwahaniaeth y gall gwasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd uchel ei wneud i lesiant a chanlyniadau pobl.  Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn AGC, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid, er mwyn gwella ansawdd a diogelwch gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru yn barhaus.