Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 2 Mai 2019
  • Newyddion

Gwelwyd cynnydd o 8% yn nifer y ceisiadau newydd am Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yng Nghymru o gymharu â'r flwyddyn flaenorol

Rydym wedi cyhoeddi'r adroddiad monitro ar Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yng Nghymru ar gyfer 2017-18.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi'r adroddiad ar y cyd. 

Mae'r Trefniadau Diogelu yn berthnasol i bobl dros 18 oed na allant gydsynio i driniaeth neu ofal mewn ysbyty neu gartref gofal a lle y gall cyfyngiadau neu dechnegau cyfyngu eu hamddifadu o'u rhyddid. 

Mae'r Trefniadau Diogelu yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer amddifadu er mwyn atal achosion o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gan fod yn rhaid cael awdurdodiad cyn y gellir amddifadu unigolyn o'i ryddid. 

Canfyddiadau 

Gwelwyd cynnydd yn nifer y ceisiadau am Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a gafwyd gan Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol, gyda'r mwyafrif o'r unigolion dan sylw yn fenywod dros 65 oed. Ni chafodd tua hanner y ceisiadau Safonol na dwy ran o dair o'r ceisiadau Brys, benderfyniad o fewn yr amserlen statudol ofynnol; mae'r gyfran a asesir o fewn yr amserlen wedi gwella ers y llynedd.

Yn achos pob cais, y cyfnod cyfartalog rhwng cael ffurflen gais a gwneud penderfyniad oedd 83 diwrnod.

Darllenwch yr adroddiad llawn drwy glicio ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.