Rheoliad cynlluniau gwyliau preswyl
Eithriad dros dro ar gyfer cynlluniau gwyliau preswyl i blant anabl.
Mae cynlluniau gwyliau preswyl i blant anabl wedi eu heithrio rhag cael eu rheoleiddio fel 'gwasanaeth cartref gofal' o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Bydd hyn yn parhau wrth i Lywodraeth Cymru ystyried opsiynau i greu rheoliadau pwrpasol newydd ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Daeth y rheoliadau sy'n cynnwys yr eithriadau gofynnol, Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (Dolen allanol), i rym ar 1 Ebrill 2019. Golyga hyn felly nad oes rhaid rheoleiddio cynlluniau gwyliau a gynhelir yn ystod gwyliau haf 2019.
Camau gweithredu gofynnol
Fodd bynnag, a fyddech cystal â nodi bod yr eithriad o fewn rheoliad 4(c)(ii) yn amodol ar gynlluniau'n rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am drefniadau ymlaen llaw. Os na fyddwch yn rhoi gwybod i Weinidogion Cymru eich bod yn bwriadu cynnal cynllun gwyliau yn y dyfodol agos, bydd angen rheoleiddio'r gwyliau hynny o hyd a byddech yn gweithredu'n anghyfreithlon os byddwch yn eu cynnal.
Sut mae rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am eich cynllun
Lawrlwythwch y templed atodedig i wneud yr hysbysiad a'i ddychwelyd i RISCAct2016@gov.wales o leiaf 7 dwirnod cyn y disgwylir i'r gwyliau ddechrau.