Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • Rhannu’r dudalen hon
  • Twitter Facebook Email More
  • 17 Mehefin 2019
  • Newyddion

Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ein canfyddiadau ac argymhellion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Hŷn.

Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd gyda Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (dolen allanol), ac archwiliwyd pa mor dda y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn hyrwyddo annibyniaeth ac atal anghenion cynyddol ar gyfer oedolion hŷn. 

Canfyddiadau Allweddol

  • Lles – Canfuom fod ymatebion proffesiynol prydlon yn amlwg ar adegau pan fydd pobl yn dioddef salwch neu argyfwng aciwt, mae hyn yn hanfodol i helpu sicrhau annibyniaeth i bobl.
  • Pobl – llais a dewis – Canfuom y gall pobl sydd heb alluedd meddyliol fod yn hyderus bod asesiad a gwneud penderfyniadau yn cael eu gwneud er eu lles gorau.
  • Partneriaethau, integreiddio a chyd-gynhyrchu – Ceir enghreifftiau o feddwl arloesol a chydweithredol gan reolwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gallu dylanwadu ac arddangos arbenigedd a bwriad cyfrannol.
  • Atal ac ymyrryd cynnar – Canfuom fod staff o bob rhan o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn adlewyrchu gweledigaeth dosturiol a rennir i gefnogi pobl yn y gymuned. 

Meysydd i’w wella

  • Lles – Canfuom fod angen cydnabod rolau gofalwyr yn gyson a sicrhau bod llais y gofalwr yn cael ei glywed; gyda gwell cymorth i ofalwyr wedi’u teilwra i’w galluogi i gyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain.
  • Pobl - llais a dewis – Nodwyd bod angen sicrhau dull cyson o gynnwys rhwydweithiau pobl o deulu a ffrindiau sylweddol fel y bo’n briodol fel eu bod yn cymryd rhan weithredol ac yn cyfrannu at y broses asesu, cynllunio a diogelu.
  • Partneriaethau, integreiddio a chyd-gynhyrchu – Rydym ym argymell y gallai cysylltiadau mwy datblygedig a chysylltiadau effeithio gyda meddygon teulu wella’r defnydd o wasanaethau cymunedol i leihau dirywiad posibl pobl hŷn sy’n byw’n annibynnol yn y gymuned.
  • Atal ac ymyrryd yn gynnar – Nodwyd bod angen sicrhau eglurder o ran cynllunio gwasanaethau ataliol iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd (er enghraifft wrth ddatblygu canolfannau gofal sylfaenol a chanolfannau cymunedol). 

Camau nesaf

Mae AGC ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i feysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei weithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.  
 

  • Rhannu’r dudalen hon
  • Twitter Facebook Email More