Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 19 Mehefin 2019
  • Newyddion

Adroddiad trosolwg cenedlaethol mewn perthynas â gofal plant a phobl ifanc sy’n brofiadol yng Nghymru

Ein hadolygiad o ba mor dda y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cefnogi plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal i fod yn ddiogel a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Yr hyn y gwnaethom edrych arno

Mae ein hadroddiad yn cadarnhau ymrwymiad AGC i godi safonau ar gyfer plant sy’n agored i niwed yng Nghymru. Fe wnaethom gasglu tystiolaeth o arolygiadau chwe gwasanaeth plant a maethu awdurdodau lleol, ac dau ar hugain o adroddiadau hunan-werthusiad awdurdodau lleol. Gwnaethom hefyd siarad â dros gant o blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, a saith deg saith o ofalwyr maeth. 

Rhai o’n canfyddiadau allweddol

  • Priodolodd plant a phobl ifanc berthynas gadarnhaol fel ffactor arwyddocaol wrth gyflawni eu canlyniadau llesiant personol.
  • Ni welsom dystiolaeth na ddylai plant sy’n derbyn gofal fod wedi derbyn hynny.
  • Canfuom fod ffactorau anghenion a risgiau gofal plant profiadol wedi cynyddu mewn cymhlethdod.
  • Mae’r cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal yn cynnwys nifer gynyddol o blant yn cael eu cefnogi i aros gyda’u teulu neu gyda’u rhieni o dan drefniadau cyfreithiol.

Meysydd ar gyfer gwelliant posibl

  • Gwelsom fod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd bodloni eu dyletswyddau ddigonolrwydd a dod o hyd I lleoliadau addas i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc, yn enwedig plant ag anghenion cymhleth.
  • Mae angen rhoi mwy o frys i gomisiynu ystod ehangach o wasanaethau a dewis lleoliadau i ddiwallu anghenion cymhleth gan awdurdodau lleol a’u partneriaid.
  • Gwnaethom ddarganfod y pwysau sylweddol ar weithlu gwaith cymdeithasol a ddigonolrwydd gofalwyr maeth, gan ei gwneud yn anodd i blant a phobl ifanc sicrhau’r perthnasoedd cadarnhaol a sefydlog sy’n golygu cymaint iddynt.

Camau Nesaf

Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau trwy ddigwyddiad dysgu sy’n cael ei gynllunio mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru.