Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 28 Mehefin 2019
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi ein llythyrau perfformiad blynyddol ar gyfer Awdurdodau Lleol

Ein gwerthusiad o Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (Deddf 2014).

Heddiw rydym wedi cyhoeddi llythyrau perfformiad blynyddol, wedi’u hysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae pob llythyr yn crynhoi ein gwerthusiad o berfformiad mewn perthynas â gwasanaethau oedolion a phlant yn ystod 2018/19 ac yn adrodd yn erbyn pedair egwyddor graidd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Mae’r llythyrau hefyd yn gosod ein rhaglen waith unigol i adolygu perfformiad dros y flwyddyn i ddod.

Gellir gweld y llythyrau yma