Adolygiad o ofal dementia gan AGC
Ein hadolygiad thematig o ofal dementia mewn cartrefi gofal ledled Cymru.
Eleni, byddwn yn gwerthuso pa mor dda y mae cartrefi gofal yn hybu llesiant ac yn helpu i gyflawni canlyniadau da i bobl sy'n byw gyda dementia. Bydd ein hadroddiad terfynol yn disgrifio ansawdd y gofal a geir gan bobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal ledled Cymru.
Ein proses adolygu
Yn ystod cyfres o arolygiadau, byddwn yn gwrando ar bobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal, yn ogystal â phrofiadau eu gofalwyr. Byddwn yn arsylwi ar y ffordd y mae'r gofal a'r cymorth a ddarperir yn hybu ac yn diogelu hawliau dynol.
Byddwn yn rhoi sylw penodol i'r ffordd y caiff Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid eu cymhwyso, y defnydd o feddyginiaeth gwrthseicotig, a'r gofal a'r cymorth a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y camau nesaf
Rydym yn gofyn i ddarparwyr gwasanaethau cartrefi gofal gwblhau ein harolwg digidol.
Rhwng mis Medi 2019 a mis Ionawr 2020 byddwn yn cynnal arolygiadau o gartrefi gofal fel rhan o'r adolygiad. Yn ystod tymor yr hydref, byddwn yn ymgynghori â chomisiynwyr ac yn cyhoeddi ein hadroddiad terfynol ym mis Mai 2020.