Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gwblhau adolygiad o ansawdd y gofal
Bydd y canllawiau hyn yn helpu darparwyr gwasanaethau oedolion a phlant i gynnal adolygiad effeithiol o ansawdd y gofal o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
O dan Ddeddf 2016, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau oedolion a phlant sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i fonitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad mor aml ag sydd angen, neu o leiaf bob chwe mis.
Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r unigolyn cyfrifol baratoi adroddiad sy'n cynnwys asesiad o safon y gofal a'r cymorth a ddarperir a gwneud argymhellion ar gyfer gwella'r gwasanaeth.
Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys
- Cyngor ar sut i gynnal adolygiad effeithiol o ansawdd y gofal.
- Templed y gall darparwyr gwasanaethau ei ddilyn i gwblhau'r adroddiad. Mae hwn hefyd ar gael fel templed ar wahân os bydd angen.