Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 6 Awst 2019
  • Newyddion

Y Datganiad Blynyddol

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno datganiad blynyddol.

Mae Deddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig gyflwyno datganiad blynyddol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol.

Dyddiadau cyflwyno

  • Gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau cymorth cartref - rhaid cyflwyno'r gyfres gyntaf o ddatganiadau blynyddol erbyn 27 Mai 2020.
  • Gwasanaethau maethu, gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau eirioli a gwasanaethau lleoliadau oedolion - rhaid cyflwyno'r gyfres gyntaf o ddatganiadau blynyddol erbyn 27 Mai 2021.
  • Caiff Darparwyr Gwasanaethau 56 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol i gyflwyno eu datganiad blynyddol. 

Caiff y wybodaeth sydd angen ei chynnwys mewn datganiad blynyddol ei nodi yn Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017.

Mae'r datganiad blynyddol yn cynnwys datganiad cydymffurfio. Bydd gofyn i'r Unigolyn Cyfrifol baratoi'r datganiad cydymffurfio hwn. 

Wrth baratoi'r datganiad, rhaid i'r Unigolyn Cyfrifol gyfeirio at ganlyniadau'r adolygiad diweddaraf o ansawdd y gofal. 

Dyluniwyd ein templed ar gyfer adroddiadau ar adolygiadau o ansawdd y gofal er mwyn rhoi cymorth i'r Unigolyn Cyfrifol gwblhau ei ddatganiad cydymffurfio. 

Bydd AGC yn darparu templed ar-lein ar gyfer y datganiad blynyddol. Bydd rhagor o ganllawiau ar y wybodaeth i'w chyflwyno yn y datganiad blynyddol ar gael maes o law.