Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad
Newidiadau arfaethedig i brosesau rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ar 26 Gorffennaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad deuddeg wythnos ar gofrestru rhagor o gategorïau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol – sef gweithwyr gofal cartref a gwasanaethau cartrefi gofal a ddarperir yn unig, neu yn bennaf, i oedolion.
Ymgynghoriad
Rhowch eich adborth ar y canlynol:
- cofrestru gorfodol ar gyfer gweithwyr gofal cartref
- agor cofrestr y gweithlu i weithwyr gofal cymdeithasol ar sail wirfoddol
- newid y ffordd y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn penderfynu a yw person yn addas ac yn briodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth
Cliciwch yma i ddysgu mwy a chwblhau'r arolwg.
Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 16 Hydref 2019.