Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 9 Medi 2019
  • Newyddion

Gwnewch gais i fod yn Gadeirydd nesaf Bwrdd Cynghori Cenedlaethol AGC

Cyfle i fonitro ein gweithgareddau a chraffu arnynt, helpu i wireddu ein blaenoriaethau, ac arwain y Bwrdd sy'n rhoi llais i'r bobl y mae ein gwaith yn effeithio arnynt.

Mae AGC yn chwilio am unigolyn ymrwymedig a brwdfrydig i fod yn Gadeirydd nesaf ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.

Mae'r Bwrdd yn rhoi cyfle i bobl leisio eu barn am yr hyn a wnawn ac mae'n cynnwys aelodau o'r sector gofal plant, y sector gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol. Mae'n cynnig arbenigedd a chyngor er mwyn ein helpu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant er lles pobl Cymru.

Bydd disgwyl i chi fynychu a chadeirio holl gyfarfodydd y Bwrdd, a gaiff eu cynnal deirgwaith y flwyddyn. Mae'r swydd yn wirfoddol ac mae angen neilltuo tua phum diwrnod gwaith y flwyddyn ar ei chyfer, gan gynnwys cyfarfodydd y Bwrdd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gadeirydd, dilynwch y ddolen i'r pecyn recriwtio i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais.

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn canol dydd ar 30 Medi 2019, fan bellaf.