Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cyhoeddi ei Adolygiad o Ofal Integredig ar gyfer cwympiadau ymysg pobl dros 65 oed yng Nghymru heddiw
Mae'r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad ar gyfer gwella.
Mae'r adolygiad hwn a gyhoeddwyd heddiw wedi canfod bod angen newid diwylliant drwy edrych ar ymddygiadau bob dydd pawb sy'n ymwneud ag atal cwympiadau a gofal er mwyn darparu'r gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n rhoi'r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn yn gyntaf.
Mae cwympo yn broblem gyffredin i bobl hŷn, gydag un o bob thri pherson dros 65 oed yn debygol o gwympo yn ystod y 12 mis nesaf. Mae'r rhif hwn yn codi i un o bob dau ymysg y rhai hynny sydd dros 80.
Gall cwympiadau arwain at ganlyniadau corfforol a seicolegol difrifol i'r person hŷn ac mae triniaeth a phrosesau ailalluogi yn gostus.
Canfyddiadau:
- Gwelodd AGIC y gallai gwasanaethau weithio'n well gyda'i gilydd er mwyn atal cwympiadau ymysg pobl hŷn, a'u trin a'u hailalluogi ar ôl iddynt gwympo.
- Mae'n argymell y dylid llunio fframwaith cwympiadau cenedlaethol i Gymru, er mwyn safoni'r dulliau o atal, trin ac ailallugoi pobl hŷn sy'n wynebu'r risg o gwympo neu sydd wedi cwympo'n barod.
- Mae'r adolygiad yn gwneud wyth argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, ac yn cynnwys canfyddiadau i'w hystyried gan unrhyw sefydliad sy'n gweithio gyda phobl hŷn.
- Mae hefyd yn argymell y dylai pob bwrdd iechyd weithio'n agos gydag awdurdodau lleol yn ei ardal er mwyn llunio llwybr lleol ar gyfer cwympiadau a all fod yn hyblyg i anghenion yr unigolyn, ynghyd â bod yn gyson â fframwaith cenedlaethol.
Mae'r adolygiad llawn ar gael ar wefan AGIC (Dolen allanol)