Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 16 Medi 2019
  • Newyddion

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol 2018–19

Mae ein hadroddiad blynyddol yn amlinellu ein gwaith drwy gydol y flwyddyn flaenorol.

Mae adroddiad blynyddol 2018–19 yn dangos bod AGC wedi rheoleiddio 5,946 o wasanaethau a oedd yn darparu 112,075 o lefydd, ac wedi cynnal mwy na 2,499 o arolygiadau ar draws gwasanaethau oedolion a phlant a gofal plant a chwarae.

Gwnaethom ymdrin â 2,898 o newidiadau i gofrestriadau gwasanaethau a'u ffyrdd o weithio, a chawsom 29,427 o hysbysiadau gan wasanaethau. Cyflwynwyd 2,154 o bryderon i AGC ynglŷn â gwasanaethau ledled Cymru.

Gwnaethom barhau i roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith, sy'n rhoi atebolrwydd am ansawdd gofal yn bendant ar y lefel uchaf mewn sefydliadau. Aeth arolygwyr ati i siarad â staff, darparwyr a rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw er mwyn helpu i lunio a datblygu dulliau gweithredu newydd yn unol â Deddf 2016.

Dywedodd y Prif Arolygydd Gillian Baranski:

Un o'n cyflawniadau mwyaf heriol eleni fu rhoi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Deddf 2016) ar waith. Gwnaethom gyflwyno model rheoleiddio cwbl newydd; ffyrdd newydd o weithio; prosesau a chanllawiau newydd a gwasanaeth ar-lein newydd er mwyn sicrhau bod modd i amcanion y ddeddfwriaeth gael eu cyflawni.

Mae'r gwaith hwn yn ein rhoi yn y sefyllfa orau i sicrhau bod uchelgeisiau'r ddeddf a'i phwyslais ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i bobl wrth wraidd y gofal cymdeithasol a ddarperir.