Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 24 Medi 2019
  • Newyddion

Ni fydd AGC Ar-lein ar gael rhwng 26 a 29 Medi

Bydd ar gael unwaith eto o 9am ar 30 Medi.

O ganlyniad i waith diweddaru hanfodol, ni fydd AGC Ar-lein ar gael rhwng 12pm ar 26 Medi a 9am ar 30 Medi.

Yn ystod yr amser hwn, ni fydd darparwyr yn gallu cyflwyno hysbysiadau gan ddefnyddio AGC Ar-lein. Arhoswch tan 9am ar 30 Medi i gyflwyno hysbysiadau i ni ar-lein.

Os bydd angen i chi roi gwybod i ni am ddigwyddiad ar frys, ffoniwch 0300 7900 126 neu e-bostiwch agc@llyw.cymru

Os oes gennych gais ar ffurf ddrafft ar AGC Ar-lein hyn o bryd, sylwer y bydd yn rhaid i chi ei gyflwyno erbyn 5pm ar 23 Medi, neu bydd eich cais yn cael ei golli. Dylai darparwyr gofal plant a chwarae barhau i gyflwyno hysbysiadau i ni yn y ffordd arferol.