Rydym wedi adolygu'r gofal a ddarperir i blant sy'n byw mewn cartrefi gofal
Darllenwch ein hadolygiad cenedlaethol o gartrefi gofal i blant yng Nghymru.
Mae ein hadolygiad yn rhoi dealltwriaeth o ganlyniadau i blant sy'n byw mewn cartrefi gofal, yn ogystal â rhai o'r heriau sy'n wynebu'r sector.
Fe'i cynhaliwyd rhwng mis Gorffennaf 2018 a mis Mawrth 2019, ac mae'n gwerthuso ansawdd y gofal a ddarperir ac yn cyflwyno barn a phrofiadau plant sydd â phrofiad o leoliadau gofal preswyl.
Ein canfyddiadau
- Nodwyd gennym fod llawer o'r plant yn cael cymorth o ansawdd da yn y cartrefi roeddent yn byw ynddynt.
- Roedd bron bob cartref yn darparu amgylchedd cynnes a chyfforddus i blant fyw ynddo a'i ystyried yn gartref.
- Gwelwyd ymrwymiad cyffredinol i sicrhau bod plant yn cael profiadau cymdeithasol a hamdden cadarnhaol, gan wella eu sgiliau cymdeithasol, a oedd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu llesiant emosiynol cyffredinol.
Argymhellion
- Nodwyd gennym fod nifer cynyddol o blant mewn gofal yn mynd ar goll. Gwnaethom argymell y dylid adolygu polisïau ac arfer er mwyn sicrhau na fydd plant mewn mwy o berygl diangen o gael eu niweidio, gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol.
- Mae angen i ddarparwyr ac awdurdodau lleol sicrhau bod digon o leoliadau i ddiwallu anghenion plant a'u galluogi i fyw yn agos at eu cartrefi.
- Dylid ystyried gofal preswyl fel dewis cadarnhaol i blant, yn hytrach na'r dewis sydd ar ôl pan fetho popeth arall.
Y camau nesaf
Rydym yn ymrwymedig i roi'r argymhellion yn yr adroddiadau ar waith, a byddwn yn gweithio gydag eraill er mwyn sicrhau gwelliannau yng nghanlyniadau'r plant a'r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Er mwyn gweld ein holl ganfyddiadau a'n hargymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn.