Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyhoeddi canllawiau ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) er mwyn helpu gweithwyr cymdeithasol i ddatblygu ar ôl cymhwyso
Mae dogfen 'Y tair blynedd gyntaf o ymarfer' yn fframwaith i roi cymorth i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso.
Er mwyn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn datblygu o fod yn fyfyrwyr i fod yn ymarferwyr hyderus a chymwys yn ddidrafferth, mae'r canllawiau hyn a gyhoeddwyd ar y cyd yn rhoi fframwaith i gyflogwyr gwaith cymdeithasol ddatblygu eu model cymorth eu hunain am y tair blynedd gyntaf o ymarfer proffesiynol gweithiwr cymdeithasol.
Mae'r canllawiau yn cynnwys y pedair adran ganlynol er mwyn helpu cyflogwyr a gweithwyr cymdeithasol i ddatblygu'r wybodaeth, y priodoleddau a'r sgiliau a feithrinwyd wrth ddilyn hyfforddiant cymhwyso:
- Sefydlu
- Datblygu cymhwysedd a thyfu mewn hyder
- Rhaglen gyfuno
- Adnewyddu cofrestriad
Gellir dod o hyd i'r canllawiau llawn ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru (Dolen allanol)