Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 31 Hydref 2019
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am gymorth sydd ar gael ar gyfer plant anabl a'u theuluoedd yn Rhondda Cynon Taf a Chonwy

Rydym yn arolygu gwasanaethau plant y ddau awdurdod lleol ym mis Tachwedd 2019.

Os ydych yn rhiant i blentyn anabl ac yn byw naill ai yn awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf neu Gonwy, hoffem glywed am eich profiadau.

Cwblhewch ein harolwg ar-lein i rieni (Dolen allanol) a rhowch eich adborth i ni.

Fel arall, gallwch gwblhau'r fersiwn hawdd ei ddarllen o'r arolwg, y gallwch ddod o hyd iddo ar waelod y dudalen hon. Lawrlwythwch a chwblhewch yr arolwg, yna e-bostiwch ef yn ôl i AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru.

Caiff ein hadroddiadau arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn eu cyhoeddi ar ein gwefan.