Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 4 Tachwedd 2019
  • Newyddion

Cwblhewch eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) ar-lein

O fis Ionawr 2020, bydd AGC yn mynd ar-lein ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi gynnal eich holl fusnes â ni drwy AGC Ar-lein.

Yr wythnos nesaf byddwn yn ysgrifennu at bob darparwr gofal plant a chwarae er mwyn rhoi gwybod iddo fod angen cwblhau a chyflwyno SASS gan ddefnyddio AGC ar-lein. Bydd y SASS yn agor ar 6 Ionawr 2020, ac yn cau ar 4 Chwefror 2020.

Mae angen i bob darparwr gofal plant a chwarae gwblhau SASS, gan fod hyn yn rhan o'r gwaith o gasglu data blynyddol.

Angen help?

Sicrhewch eich bod yn cyfeirio galwadau am lenwi'r SASS at eich sefydliad gofal plant, gallwch wneud hyn p'un a ydych yn aelod ai peidio.

Er mwyn cael cymorth i ddefnyddio AGC ar-lein ac i gwblhau eich SASS, cysylltwch â ni ar 0300 7900 126, Opsiwn 4 neu anfonwch e-bost at agc@llyw.cymru.