Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 19 Tachwedd 2019
  • Newyddion

Cystadleuaeth cerdyn Nadolig 2019

Ydych chi'n ddarparwr cofrestredig gyda ni? Cymerwch ran yn ein cystadleuaeth cerdyn Nadolig nawr!

Rydym yn falch i gyhoeddi ein bod yn lansio ein cystadleuaeth cerdyn Nadolig digidol ar gyfer 2019 a hoffwn eich gwahodd CHI i anfon darluniau neu waith celf atom, neu unrhyw waith creadigol sydd wedi cael ei greu gan ddefnyddwyr eich gwasanaeth, ar thema'r Nadolig.

Anfonwch ffotograff neu sgan o'ch gwaith celf i ciwcomms@llyw.cymru, erbyn dydd Llun 2 Rhagfyr. Atodwch enw cyntaf y person, ei oedran, ynghyd ag enw eich gwasanaeth gyda phob darlun neu waith celf.

Cynlluniau buddugol

Caiff gynlluniau buddugol eu dewis a bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu drwy e-bost eu bod wedi ennill. Bydd y waith celf yn ymddangos ar ein cerdyn Nadolig digidol swyddogol ar gyfer 2019, a fydd yn cael ei anfon at holl danysgrifwyr ein cylchlythyr, ac yn cael ei arddangos ar ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol.

Os nad ydych eisoes wedi gwneud, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr, a dilynwch ni ar Twitter a Facebook .

Enillwyr cerdyn Nadolig 2018
2018 Christmas card winners.

 

Hysbysiad preifatrwydd

Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd unrhyw bartneriaid, gwarcheidwaid neu ofalwyr perthnasol er mwyn anfon y gweithiau celf i'r gystadleuaeth. Gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Cwestiynau?

Is oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ciwcomms@llyw.cymru.