Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yn cyhoeddi ei holynydd
Bydd Dr Ruth Hussey yn dechrau yn y rôl ar 1 Ionawr 2020.
Yng nghyfarfod Bwrdd Cynghori Cenedlaethol AGC ar 19 Tachwedd, cyhoeddodd y cadeirydd presennol, yr Athro Judith Hall, benodiad ei holynydd a fydd yn dechrau yn ei swydd y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Judith:
Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi’r penodiad gwych hwn i Fwrdd Cynghori Cenedlaethol AGC. Rwy’n siŵr y bydd y cadeirydd newydd yn parhau i arwain y Bwrdd wrth ddarparu arbenigedd a chyngor ar agweddau allweddol ar waith yr arolygiaeth.
Ynglŷn â'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol
Mae'r Bwrdd yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn ac yn llywio gwaith AGC drwy roi llais i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'u gofalwyr, a'r rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud â gofal a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Y cadeirydd sy'n gyfrifol am arwain y Bwrdd wrth fonitro ein gwaith, craffu arno a chodi ymwybyddiaeth ohono. Mae rôl y cadeirydd yn swydd wirfoddol.
Ynglŷn â'r Cadeirydd Newydd
Mae Dr Hussey yn un o gyn-gadeiryddion yr Adolygiad Seneddol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ac yn gyn Brif Swyddog Meddygol i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Dr Hussey:
Mae'n fraint cael fy mhenodi i gadeirio’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol. Mae 'Cymru Iachach' yn nodi cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau'r Bwrdd er mwyn parhau i wneud cyfraniad cadarn ac effeithiol at waith Arolygiaeth Gofal Cymru wrth helpu i gyflawni'r canlyniadau gorau i bobl yng Nghymru.