Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 28 Tachwedd 2019
  • Newyddion

Cwblhewch eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) ar-lein

O fis Ionawr 2020, bydd AGC yn mynd ar-lein ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi gynnal eich holl fusnes â ni drwy AGC Ar-lein.

Rydym bellach wedi ysgrifennu at ddarparwyr gofal plant a chwarae er mwyn rhoi gwybod iddynt fod angen cwblhau a chyflwyno SASS gan ddefnyddio AGC ar-lein. Rydym wedi cael 3,338 o alwadau, ac wedi actifadu mwy na 2,550 o rifau pin cyfrif AGC ar-lein yn ystod y tair wythnos ddiwethaf. Bydd angen i ddarparwyr actifadu eu pin er mwyn paratoi ar gyfer y SASS sy'n agor ar 6 Ionawr 2020, ac yn cau ar 4 Chwefror 2020.

Mae angen i ddarparwyr gofal plant a chwarae gwblhau SASS, gan fod hyn yn rhan o'r gwaith o gasglu data blynyddol.

Angen help?

Sicrhewch eich bod yn cyfeirio galwadau am lenwi'r SASS at eich sefydliad gofal plant. Gallwch wneud hyn p'un a ydych yn aelod ai peidio.

Er mwyn cael cymorth i ddefnyddio AGC ar-lein a chwblhau eich SASS, cysylltwch â ni ar 0300 7900 126, Opsiwn 4, neu e-bostiwch ciw@gov.wales.