Newidiadau arfaethedig i ofynion hysbysu ar gyfer sefydliadau anghorfforedig
Bydd y newid arfaethedig yn sicrhau mwy o gysondeb ar draws y mathau gwahanol o sefydliadau a all gofrestru fel darparwyr gwasanaeth yng Nghymru.
Bellach, rydym wedi anfon llythyron gan Lywodraeth Cymru at ddarparwyr gwasanaethau anghorfforedig i roi gwybod iddynt am gynnig i ddiwygio'r rheoliadau sy'n rhoi gofynion i ddarparwyr gwasanaeth ac unigolion cyfrifol gwasanaethau rheoleiddiedig yng Nghymru i'w bodloni.
Ar hyn o bryd, os bydd partner neu gyfarwyddwr sefydliad darparwr gwasanaeth yn newid, mae'n rhaid ein hysbysu gan roi manylion yr unigolyn neu'r unigolion newydd. Bydd y cynnig newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i unigolion sy'n rhan o gorff llywodraethu sefydliadau anghorfforedig, megis ymddiriedolwyr ac aelodau o fyrddau a phwyllgorau, gwblhau'r broses hon hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno'r newid hwn o 1 Ebrill 2020, er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y mathau gwahanol o sefydliadau a all gofrestru fel darparwyr gwasanaeth yng Nghymru.
Rhoi sylwadau am y newid hwn
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y newid arfaethedig, gallwch ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn RISCAct2016@gov.wales erbyn 19 Ionawr 2020. Caiff eich sylwadau eu hystyried cyn cyflwyno'r newid hwn.
Gellir cael gafael ar gopi o'r llythyr a anfonwyd at ddarparwyr gwasanaethau anghorfforedig a manylion pellach am y cynnig ar waelod y dudalen hon.