Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 13 Ionawr 2020
  • Newyddion

Mae'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) bellach ar agor! Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i'ch helpu.

Mae cwblhau SASS yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

Mae gan ddarparwyr hyd at 4 Chwefror i gyflwyno eu ffurflen SASS wedi'i chwblhau, a gellir ei chadw a dychwelyd ati unrhyw bryd cyn ei chyflwyno ar y dyddiad hwn.

Awgrymiadau defnyddiol

  • Mae modd mynd i borth AGC Ar-lein drwy'r ddolen arolygiaethgofal.cymru/gwasanaethau-ar-lein
  • Os ydych yn gweld X coch ac nad ydych yn gwybod beth mae'n ei olygu; mae'n golygu nad yw'r adran honno o'r SASS wedi'i chwblhau. Sicrhewch eich bod wedi cwblhau pob maes perthnasol a bod y bar yn dangos bod popeth wedi'i gwblhau.
  • Mae'n rhaid i ddarparwyr sicrhau eu bod yn defnyddio'r tab 'manylion darparwr y gwasanaeth' wrth chwilio am y SASS. Os bydd y darparwyr yn mynd i fanylion y gwasanaeth unigol, ni fydd y SASS yn ymddangos.
  • Peidiwch â chlicio ar yr opsiwn 'dechrau cais' yng nghornel dde uchaf y bar, dim ond ar gyfer cofrestru gwasanaethau newydd mae hwn.
  • Os ydych yn gyfrifol am fwy nag un gwasanaeth, sicrhewch fod manylion y proffil sefydliadol yn gywir. Ar ôl cwblhau hyn, bydd unrhyw wasanaethau cysylltiedig yn ymddangos yn adran nesaf y SASS.
  • Os oes gan warchodwyr plant X coch ger eu henw, dewiswch 'golygu' cyn arbed y manylion.
  • Os nad ydych yn gallu agor eich cyfrif, sicrhewch eich bod yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost cywir, sef yr un y mae AGC yn ei gysyll3tu â'ch cyfrif ar-lein.

SASS, AGC ar lein

Angen help?

Er mwyn cael cymorth technegol i ddefnyddio AGC ar-lein i gwblhau eich SASS, cysylltwch â ni ar 0300 7900 126, Opsiwn 4, neu e-bostiwch ciw@gov.wales.