Gwybodaeth am Brexit i bob aelod o staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru.
Gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020. Yn ystod y Cyfnod Gweithredu dilynol hyd at 31 Rhagfyr 2020, bydd y DU yn parhau i weithredu'n gyson â chyfreithiau'r UE, a bydd y gweithdrefnau rheoleiddio a thollau presennol yn parhau mewn grym.
- Gwasanaethau'r GIG: Nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld unrhyw amharu ar y gwaith o redeg y GIG na gwasanaethau gofal cymdeithasol o ddydd i ddydd.
- Meddyginiaethau: Bydd cyflenwadau, gan gynnwys meddyginiaeth a nwyddau meddygol, yn parhau i lifo fel arfer yn ystod y Cyfnod Gweithredu.
- Presgripsiynau: Dylai pobl barhau i wneud yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud, sef archebu presgripsiynau pan fydd angen amdanynt, casglu meddyginiaethau yn y ffordd arferol a pharhau i'w cymryd fel y'u rhagnodwyd.
- Gofal Iechyd Cilyddol: Yn ystod y Cyfnod Gweithredu (31 Ionawr 2020 tan 31 Rhagfyr 2020), bydd y trefniadau presennol ar gyfer gofal iechyd cilyddol yn parhau i fod yn gymwys fel yr oeddent cyn 31 Ionawr.
- Cefnogi dinasyddion yr UE sy'n gweithio ym meysydd iechyd a gofal: Caiff dinasyddion yr UE eu hannog i barhau i fyw a gweithio yma. Mae angen i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir wneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio'n Sefydlog Llywodraeth y DU i ddinasyddion yr UE erbyn 30 Mehefin 2021.
Angen help i wneud cais ar gyfer y Cynllun Preswylio'n Sefydlog?
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth am ddim i helpu'r sawl sydd ei angen. Gallwch ddod o hyd i'r cymorth hwn drwy wefan EUSS Cymru.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit, ewch i wefan Paratoi Cymru.