Gohirio Datganiad Blynyddol a chyhoeddiadau eraill AGC
Mae nifer o'n meysydd gwaith wedi'u gohirio dros gyfnod y pandemig coronafeirws.
O ganlyniad i'r pwyasau a'r heriau y mae darparwyr yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o'r blaen, gwnaed penderfyniad i ohirio'r Datganiad Blynyddol am flwyddyn, bellach i'w gyflwyno ym mis Mai 2021.
Rydym wedi e-bostio darparwyr gwasanaethau oedolion a phlant ynglŷn â hyn ddechrau'r wythnos hon i roi gwybod iddynt.
Rydym hefyd yn gohirio cyhoeddi unrhyw adroddiadau cenedlaethol, awdurdodau lleol neu adroddiadau arolygu.
Mae'r digwyddiadau canlynol wedi cael eu canslo neu eu gohirio:
- Ein presenoldeb yn Sioe Frenhinol Cymru
- Ein digwyddiadau arfaethedig i ddarparwyr ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ewch i'n tudalen we COVID-19 i weld y cwestiynau cyffredin a'r wybodaeth ddiweddaraf gan AGC.