Diolch am yr ymroddiad a'r gwaith caled yn ystod y cyfnod digynsail hwn
Byddwn yn cysylltu â phob darparwr gofal dros yr wythnosau nesaf.
Rydym am eich cefnogi drwy'r amser anodd hwn a phwrpas y galwad fydd i wirio eich lles, nid i'ch archwilio.
Byddwn yn gofyn am eich adborth am eich gwasanaeth i lywio darlun o'r pwysau ledled Cymru a nodi unrhyw broblemau penodol ar gyfer gwasanaethau, meysydd lle gallwn ddatblygu canllawiau a chyngor drwy ein cwestiynau cyffredin a gwybodaeth i'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol a byrddau iechyd.
Bydd eich arolygydd yn cysylltu â chi i gytuno ar y person gorau o fewn eich gwasanaeth i siarad ag ef yn rheolaidd. Byddwn yn gwneud hyn am y tair wythnos nesaf ac yna byddwn yn adolygu.
Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â ni AGC@llyw.cymru.