Mae gwasanaeth newydd yn caniatáu i'r Gwasanaeth Datgelu ymateb yn gyflymach i geisiadau recriwtio yn ystod COVID-19
Bydd y trefniadau hyn yn rhoi opsiwn i gyflogwyr benodi recriwtiaid newydd i weithgaredd rheoledig gydag oedolion a / neu blant.
Mae’r Swyddfa Gartref a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi rhoi trefniadau dros dro ar waith, i ddarparu archwiliadau’r gwasanaeth datgelu a gwahardd, a gwiriadau brys ar y rhestrau gwahardd ar gyfer oedolion a phlant yn rhad ac am ddim. Bydd hyn yn berthnasol i weithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cael eu recriwtio mewn cysylltiad â darparu gofal a thriniaeth coronafeirws yng Nghymru a Lloegr.
Ceir rhagor o fanylion a gwybodaeth ar y rolau sy'n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn ar wefan Llywodraeth y DU. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.