Coronafeirws (COVID-19): Ein dull o ymdrin â cheisiadau Cofrestru ac Amrywio
Rydym yn parhau i brosesu cofrestriadau gwasanaethau gofal plant a chwarae newydd ac amrywiadau i amodau gwasanaethau sydd eisoes wedi'u cofrestru.
Mewn ymateb i bandemig COVID-19, rydym yn cydnabod y gallai fod angen cynyddu capasiti yn y sector gofal plant a chwarae er mwyn sicrhau bod digon o leoliadau ar gael ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae pan fo rhieni yn dechrau dychwelyd i'r gwaith.
Er ein bod wedi gohirio ein trefn arolygu arferol, mae ein timau cofrestru yn parhau i flaenoriaethu gwaith cofrestru ac amrywio sy'n cefnogi darparwyr i ddarparu gwasanaethau o ganlyniad i COVID-19.
Er mwyn galluogi ein gwaith cofrestru i barhau, rydym wedi addasu rhai o'n prosesau a amlinellir isod. Gellir gweld Canllawiau pellach ar gyfer ymgeiswyr a darparwyr mewn ymateb i COVID-19 ar ddiwedd y dudalen hon.
Ymweliadau safle
Ni ddylid cynnal ymweliadau safle oni fydd hynny'n gwbl angenrheidiol ac os nad oes unrhyw ffordd arall o asesu addasrwydd y safle.
Gwiriadau DBS
Byddwn yn mabwysiadu dulliau amgen o wirio manylion adnabod o bell, er enghraifft drwy Skype.
Cyfweliadau
Byddwn yn cwrdd ag ymgeiswyr ac Unigolion Cyfrifol o bell, gan gynnwys cynnal cyfweliadau cofrestru.
A fyddech cystal â chydweithio â ni drwy ddefnyddio AGC Ar-lein i barhau i gyflwyno eich ceisiadau gofal plant a chwarae.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio 0300 7900 126 neu e-bostio agc@llyw.cymru.