Nodyn atgoffa: gwasanaeth newydd yn galluogi'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i ymateb yn gynt i geisiadau recriwtio yn ystod COVID-19
Mae trefniadau dros dro ar waith yn ystod pandemig COVID-19.
Mae Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi rhoi trefniadau dros dro ar waith i ddarparu gwiriadau DBS a gwiriadau brys llwybr carlam o'r Rhestrau Gwaharddedig ar gyfer Oedolion a Phlant am ddim.
Bydd hyn yn berthnasol i weithwyr gofal iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n cael eu recriwtio mewn cysylltiad â darparu gofal a thriniaeth coronafeirws yng Nghymru a Lloegr.
Ceir rhagor o fanylion a gwybodaeth am y rolau sy'n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn ar wefan Llywodraeth y DU.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.