Parhau i lacio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig dros dro
Rydym wedi e-bostio darparwyr gofal plant a chwarae i roi gwybod iddynt am y diweddariad.
Ym mis Ebrill, gwnaethom anfon e-bost at ddarparwyr gofal plant a chwarae i'w hysbysu am y newidiadau dros dros i lacio rhai o ofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig, y cytunwyd arnynt gan Weinidogion Cymru er mwyn parhau i ddarparu gofal plant yn ystod pandemig COVID-19.
Wrth i ddarparwyr ystyried ailagor neu gynyddu eu gweithrediadau yn sgil llacio rhai o gyfyngiadau COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ac ymestyn y broses o lacio rhai o'r gofynion yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig tan 30 Medi 2020.
Rydym wedi anfon e-bost at yr holl ddarparwyr gofal plant a chwarae heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y trefniadau hyn, gan nodi'r amgylchiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gefnogi'r sector.
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y newidiadau y cytunwyd arnynt yn y ddolen i'r lythyr isod:
Noder bod y trefniadau a'r canllawiau a nodir yn yr e-bost hwn yn disodli'r rhai a nodwyd yn ein e-bost ym mis Ebrill.