Rydym wedi cyhoeddi ein cynllun Ymgysylltu ar gyfer 2020-23
Mae ein cynllun ymgysylltu yn amlinellu ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar gyfer sicrhau bod pobl yn ymgysylltu â'n gwaith dros y tair blynedd nesaf.
Ein huchelgais yw meithrin cydberthnasau cadarn ac ymddiriedus â phobl, gan siarad â chynifer o bobl ag y gallwn. Bydd canolbwyntio ar brofiadau pobl a deall sut mae gwasanaethau yn effeithio ar eu bywydau yn ein helpu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Sut y byddwn yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud, ac yn deall ein rôl.
- Sut y byddwn yn cymryd camau i wella'r ffordd rydym yn sicrhau bod pobl yn ymgysylltu â'n gwaith.
- Sut y byddwn yn rhannu ein gwybodaeth a'n canfyddiadau er mwyn cefnogi gwelliannau.
Gellir cael gafael ar wybodaeth bellach a'r cynllun llawn ar dudalen ein strategaeth a'n prosiectau a thrwy ddilyn y dolenni isod.
Lawrlwytho dogfennau
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf
- Math o ffeil: pdf