Gwiriadau Prawf Adnabod y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ystod y Pandemig COVID-19
Darparwyr gofal a dderbyniodd e-bost yn ddiweddar gan Vibrant Nation.
Bydd rhai darparwyr gofal wedi derbyn e-bost gan Vibrant Nation yn ddiweddar, yn gofyn iddynt fynd â dogfennau adnabod i'w swyddfa bost leol er mwyn iddynt gael eu gwirio a'u dilysu. Mae hyn yn dilyn gwiriad Hunaniaeth DBS rhithwir yn ystod y pandemig COVID-19.
Os byddwch yn derbyn yr e-bost hwn, dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ynddynt.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â Vibrant Nation ar 02920 334995 neu anfonwch e-bost i admin@vibrantnation.co.uk.