Llacio Safonau Gofynol Cenedlaethol dros dro (SGC) ar gyfer gofal plant a reoleiddir
Mae Llywodraeth Cymru wedi ail-gyflwyno newidiadau dros dro i rai o’r safonnau yn y SGC er mwyn cynorthwyo darparwyr gofal plant.
Rydym wedi ebostio darparwyr gofal plant a chwarae i adael iddynt wybod bod Llywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi lleoliadau, wedi penderfynu ail-gyflwyno llacio rhai o ofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, dros dro, tan 1 Ebrill 2022.
Fel o’r blaen bydd yn rhaid i ddarparwyr gysylltu gyda’u hawdurdod lleol er mwyn i’w cais gael ei gysidro mewn perthynas â llacio dan y penawdau isod, fel a amlinellir yn y llythyr.
- Cymarebau staffio
- Cymwysterau staff
- GDG (DBS)
Bydd angen i ddarparwyr ddefnyddio’u cyfrif AGC ar lein i’n hysbysu o unrhyw newidiadau a gytunwyd gan yr awdurdod lleol. Bydd angen i’r awdurdodau lleol hefyd ein hysbysu eu bod wedi cytuno i’r newidiadau.
Gellir canfod manylion pellach am y newidiadau a gytunwyd yn y llythyr Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (SGC) dyddiedig 17 Ionawr 2022, ar y wefan isod.