Galluogi pobl i gwrdd â theulu a ffrindiau
Rydym yn disgwyl i bob darparwr groeso ac annog ymwelwyr mewn modd agored a hyblyg.
Yn dilyn cyhoeddiad y Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol (Dolen allanol), dylai ymweliadau dan do rheolaidd gael eu cefnogi heb gyfyngiadau pan nad oes brigiad o achosion. Nid ydym yn disgwyl bodolaeth cyfyngiadau anaddas ar niferoedd ymwelwyr, y diwrnodau y gall pobl ymweld, neu hyd ac amlder ymweliadau.
Pe bai brigiad o achosion COVID yn y gwasanaeth, dylai pobl allu cael ymweliadau gan ddau ymwelydd dynodedig o hyd, ar yr un pryd os yw hynny'n well ganddynt.
Byddwn yn ystyried camau gorfodi os yw cyfyngiadau dianghenraid ar ymwelwyr yn tanseilio hawliau pobl ac yn torri rheoliadau. Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) Reoliadau 15, 21, 23 a 25.