Cefnogaeth i Ddarparwyr Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol
Os yw eich clwb ar ôl ysgol wedi gorfod cau, mae cymorth ar gael i chi.
Rydym yn ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu llawer o glybiau ar ôl ysgol ers pandemig COVID-19, ac mae rhai yn dal ar gau dros dro.
Os ydych yn ddarparwr ac mae angen cymorth arnoch chi, gallwch gysylltu â Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant eich rhanbarth Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs.
Maent ar gael i'ch cefnogi i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau a gobeithio galluogi eich lleoliad i ailagor.
Cyswllt:
- De-ddwyrain Cymru: info-sew@clybiauplantcymru.org
- Gorllewin Cymru: info-ww@clybiauplantcymru.org
- Gogledd Cymru: info-nw@clybiauplantcymru.org