Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126
  • 17 Awst 2022
  • Newyddion

Cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhaid i bob gweithiwr cartref gofal i oedolion yng Nghymru gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o 1 Hydref 2022.

Ar hyn o bryd, rhaid i’r holl staff gofal sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i blant, llety diogel neu wasanaethau cymorth cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis i’r dyddiad y maent yn dechrau eu cyflogaeth.

Bydd y gofyniad hwn yn cael ei ymestyn i holl weithwyr cartrefi gofal i oedolion yng Nghymru o 1 Hydref 2022.

Bydd gan weithwyr newydd chwe mis i gofrestru. Mewn ymateb i amgylchiadau eithriadol pandemig COVID-19, fe wnaethom ymestyn hyn dros dro i 12 mis ar gyfer yr holl weithwyr newydd yn y gwasanaethau hyn. Fe wnaethom ni’r penderfyniad hwn er mwyn cynorthwyo darparwyr i recriwtio a chadw staff ychwanegol pan oedd eu hangen fwyaf arnynt.

Rydym bellach yn bwriadu adfer y cyfnod o chwe mis ar gyfer cofrestru yn raddol o 1 Hydref 2022, a fydd yn cyd-fynd â'r dyddiad y bydd y gofyniad i weithwyr cartrefi gofal i oedolion gofrestru yn dod i rym.

Bydd y dull graddol hwn yn cynnwys y canlynol:

  1. Bydd yn ofynnol i unrhyw staff newydd sy’n dechrau eu cyflogaeth mewn cartrefi gofal, llety diogel neu wasanaethau cymorth cartref rhwng 1 Hydref 2022 a 31 Mawrth 2023 gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru erbyn 1 Hydref 2023.
  2. Bydd yn ofynnol i unrhyw staff newydd sy’n dechrau eu cyflogaeth mewn cartrefi gofal, llety diogel neu wasanaethau cymorth cartref ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023 gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis i’w dyddiad dechrau.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi creu ystod o ganllawiau, adnoddau a fideos i gynorthwyo gweithwyr gofal cymdeithasol gyda chofrestru. Gallwch gael mynediad atynt drwy Fideos canllaw cofrestru | Gofal Cymdeithasol Cymru (Dolen allanol).

Newidiadau eraill

Byddwch yn ymwybodol bod Gofal Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar wedi ymgynghori ar, ac yna cyflwyno, trefniadau newydd ar gyfer cofrestru i weithwyr gofal cymdeithasol. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:

  1. disodli’r llwybr Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd â model asesiad gan y cyflogwr wedi’i symleiddio, yn seiliedig ar gymwyseddau craidd
  2. lleihau nifer gofynnol yr oriau o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn ystod tair blynedd y cyfnod cofrestru ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol o 90 i 45 awr

Bydd y newidiadau hyn yn gwneud cofrestru a datblygiad proffesiynol parhaus yn llai beichus ac yn fwy hygyrch i staff.

Cwestiynau?

Anfonwch neges e-bost at agc@llyw.cymru.

Cwestiynau cyffredin

Beth mae hyn yn ei olygu i'ch gwasanaeth?

Ar hyn o bryd, rhaid i’r holl staff gofal sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i blant, llety diogel neu wasanaethau cymorth cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis i’r dyddiad y maent yn dechrau eu cyflogaeth. Bydd y gofyniad hwn yn cael ei ymestyn i holl weithwyr cartrefi gofal i oedolion yng Nghymru o 1 Hydref 2022.

Pam mae AGC yn adfer y cyfnod o chwe mis i weithwyr gofal cymdeithasol gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru?

Roedd y penderfyniad i ymestyn y cyfnod gras i 12 mis yn fesur dros dro yn ystod cyfnodau cynnar y pandemig. Gan fod Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gwneud newidiadau sy’n gwneud cofrestru a datblygiad proffesiynol parhaus yn llai beichus ac yn fwy hygyrch i staff, credwn ei bod yn gymesur i adfer y cyfnod o chwe mis mewn ffordd raddol sy’n cyd-fynd â’r dyddiad y bydd y gofyniad i weithwyr cartrefi gofal i oedolion gofrestru yn dod i rym.

Faint o amser sydd gan weithwyr gofal i gofrestru?

Gallwch ddefnyddio'r tabl isod i benderfynu pryd y mae'n rhaid i weithwyr newydd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dyddiad dechrau eu cyflogaeth Dyddiad y mae angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Cyn 1 Hydref 2022 12 mis o'r dyddiad dechrau
Rhwng 1 Hydref 2022 a 31 Mawrth 2023 1 Hydref 2023
O 1 Ebrill 2023 ymlaen Chwe mis o'r dyddiad dechrau

 

Pa gamau y bydd AGC yn eu cymryd os bydd yn canfod yn ystod arolygiad nad yw staff wedi'u cofrestru o fewn chwe mis?

Byddwn yn disgwyl i bob darparwr weithredu yn unol â gofynion y rheoliadau. Pan nad yw'r darparwr yn bodloni'r gofynion cyfreithiol, bydd y camau a gymerwn yn gymesur, gan ystyried yr effaith neu'r risg i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'r tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto.

Sut y gallaf gael rhagor o wybodaeth am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru?

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi creu ystod o ganllawiau, adnoddau a fideos i gynorthwyo gweithwyr gofal cymdeithasol gyda chofrestru. Gallwch gael mynediad atynt drwy Fideos canllaw cofrestru | Gofal Cymdeithasol Cymru (Dolen allanol).