O ddydd Iau 29 Medi 2022, ni fydd yn ofynnol i chi roi gwybod am achosion unigol o COVID-19 mwyach
Yn yr un modd â chlefydau heintus eraill, dim ond pan fydd brigiad o achosion COVID-19 y bydd angen i chi wneud hysbysiad. Diffiniad brigiad o achosion yw dau neu fwy o achosion.
Wrth inni bontio trwy’r cyfnod adfer ar ôl y pandemig, credwn fod yr amser wedi cyrraedd i ddychwelyd i ofynion adrodd arferol.
Hoffem fachu ar y cyfle hwn i ddiolch i ddarparwyr gofal ledled Cymru am eich defnydd diwyd o system hysbysu AGC Ar-lein yn ystod y pandemig i adrodd am achosion unigol o COVID-19 ymhlith staff a phobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Roedd yr wybodaeth a rannwyd gennych yn ein galluogi i adrodd yn effeithiol i Lywodraeth Cymru ac yn helpu i lywio cynllunio cenedlaethol a lleol ar gyfer COVID-19. Diolch i chi am eich ymdrechion yn ystod yr hyn y gwyddom ei fod yn gyfnod hynod anodd a heriol.
Sut i roi gwybod i ni
A fyddech cystal â pharhau i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau neu ddigwyddiadau yn eich gwasanaeth gan ddefnyddio AGC Ar-lein. Er mwyn ein hysbysu am frigiad o achosion COVID-19, rhaid i chi ddefnyddio'r hysbysiad ‘brigiad o achosion clefyd heintus’ ar-lein. Gweler ein canllawiau ar hysbysiadau os oes angen cymorth pellach arnoch.
Nid oes angen i chi gyflwyno hysbysiad cau dros dro mwyach oherwydd COVID-19.