Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cyflwyno Datganiad Blynyddol

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth cofrestredig gyflwyno Datganiad Blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.

Cyflwyno

Rhaid i’r Datganiadau Blynyddol gael eu cyflwyno gan ddarparwyr gwasanaeth sy’n rhedeg unrhyw un o’r canlynol:

  • Gwasanaethau cartrefi gofal
  • Gwasanaethau gofal cartref
  • Gwasanaethau llety diogel
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
  • Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau lleoli oedolion

Nid oes angen i’r mathau canlynol o wasanaethau gyflwyno unrhyw Ddatganiadau Blynyddol:

  • Gwasanaethau maethu awdurdodau lleol
  • Gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol
  • Ysgolion arbennig preswyl
  • Colegau addysg bellach
  • Ysgolion preswyl

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y datganiadau blynyddol wedi’i nodi yn Neddf 2016 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017.

Paratoi

  • Bydd y system Datganiad Blynyddol ar gael drwy eich cyfrif AGC Ar-lein o 1 Ebrill ymlaen, bob blwyddyn.
  • Dylai’r Unigolyn/Unigolion Cyfrifol neu swyddog/swyddogion y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r darparwr sydd wedi agor ei gyfrif AGC Ar-lein cwblhau a chyflwyno y datganiad blynyddol. Dim ond rhai adrannau o'r datganiad flynyddol y gall cynorthwywyr ar-lein eu llenwi. Gwiriwch fod gan bob unigolyn cyfrifol dynodedig, neu swyddog sefydliadol, fynediad i'w cyfrif AGC Ar-lein a'u bod wedi actifadu eu cyfrif i fynediad Lefel 2.
  • Er mwyn sicrhau bod eich Datganiadau Blynyddol yn cael eu cyflwyno mewn pryd, mewngofnodwch i'ch cyfrif AGC Ar-lein cyn 1 Ebrill er mwyn sicrhau bod manylion eich gwasanaeth yn gywir ac yn gyfredol.
  • Bydd arweiniad a chyngor pellach ynglŷn â beth fydd yn cael ei gynnwys yn eich Datganiad Blynyddol a sut i'w gwblhau/cyflwyno, i'w gweld yn y canllawiau isod.

 

Cymorth gyda chwblhau eich Ffurflen Flynyddol


Mae cwblhau eich Ffurflen Flynyddol yn gyflym ac yn syml trwy eich cyfrif AGC Ar-lein. Rydym wedi creu'r fideo 'sut i' isod a llyfryn canllaw i'ch trafod sut i gwblhau eich SASS.